Cymraeg

Tweet

Single-white-pixel.jpg

 

Amdanom ni

HCPTS yw gwasanaeth dyfarnu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Mae manylion o'i gynllun Iaith GYmraeg ar gael yma. Mae HCPTS yn gweithredu'r un polisi.

Gallwn gynhyrchu dogfennau yn Gymraeg ar gais. Cysylltwch a'r Tim Gwasanaethau Tribiwnlys ar y manylion cyswllt isod.


Beth yw'r HCPTS?

Pwrpas

Y Gwasanaeth Tribiwnlys Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPTS) yw gwasanaeth dyfarnu addasrwydd i ymarfer y Cyngor Proffesiynau Gofal (HCPC).

Er nad yw'n rhan o'r HCPC, mae hunaniaeth bendant HCPTS yn ceisio pwysleisio bod gwarandawiadau yn cael eu cynnal a'u rheoli gan Baneli annibynnol sydd hyd braich o'r HCPC.


Strwythur

Mae'r HCPTS yn cynnwys y Tribiwnlys Proffesiynau Iechyd a Gofal- y Paneli sy'n clywed a dyfarnu achosion ar ran tri Pwyllgor Ymarfer HCPC (Y Pwyllgor Ymchwilio, Ymddygiad a Chymhwysedd, ac Iechyd)- a'r tim Gwasanaeth Tribiwnlys, sy'n darparu cefnogaeth weithredol i'r Tribiwnlys. Mae tim amserlennu'r Gwasanaeth Tribiwnlys yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth i Baneli ac eraill sy'n cymryd rhan mewn gwrandawiadau ac mae'n gyfrifol hefyd am gyhoeddi penderfyniadau Tribiwnlys.


Pwyllgor Cynghori'r Tribiwnlys

Cyfansoddiad

Mae Pwyllgor Cynghori'r Tribiwnlys (TAC) yn bwyllgor anstatudol o'r HCPC. Mae'n adrodd yn uniongyrchol i'r Cyngor. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys chwech aelod, tri o Gadeiryddion Panel y Tribiwnlys a thri aelod sy'n annibynnol o'r Tribiwnlys.

Cyfrifoldebau

Prif rol y TAC yw cynghori'r Cyngor ar recriwtio, hyfforddi ac asesu panelwyr Tribiwnlys, cadeiryddion panel ac aseswyr cyfreithiol. Mae'r TAC hefyd yn gyfrifol am ddarparu cyfarwyddyd i'r Tribiwnlys ar ymarfer a gweithdrefn. Rhan bwysig o'r swyddogaeth honno yw cyhoeddi Nodiadau Ymarfer.


Cysylltwch a ni/adborth

Gallwch gysylltu a'r Tim Gwasanaethau Tribiwnlys ar tsteam@hcpts-uk.orgneu trwy deleffon ar +44 (0)808 184 3084.

Mae'r Gwasanaeth Tribiwnlys Proffesiynau Iechyd a Gofal yn rhan o'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Gellir gwneud cwynion i feedback@hcpc-uk.org. Dilynwch y ddolen hon i ddysgu mwy am sut mae HCPC yn trafod cwynion.

Mae'r HCPC a HCPTS yn croesawu adborth oddi wrth bobl cofrestredig a'u cynrychiolwyr ar eu profiadau o holl agweddau'r broses addas i ymarfer. Os oes gennych unrhyw sylwadau, da neu ddrwg, neu os hoffech godi mater gyda ni, e-bostiwch repsbodiesfeedback@hcpc-uk.org. Byddwn yn cydnabod eich adborth o fewn tri diwrnod gwaith ac yn anelu at ymateb yn llawn o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os oeddech yn dyst mewn gwrandawiad a bod gennych adborth penodol am y Gwasanaeth Tribiwnlys Proffesiynau Iechyd a Gofal, defnyddiwch y ffurflen adborth yma ac e-bostiwch witnessfeedback@hcpts-uk.org.

 



;